Mae Rhodri ‘di ymweld â Thregaron ar gyfer pennod nesaf ‘Taith Cerdded Rhodri’ Mae hon yn rhan o brosiect diwylliannol ar y cyd rhwng Radio Aber a Cered
Mewn cydweithrediad gyda Cered mae Radio Aber wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc yng nghlwb ieuenctid Penparcau i greu rhaglen radio. Yn y rhaglen hon mae’r bobl ifanc yn trafod y pynciau sy’n bwysig iddyn nhw yn cynnwys gormod o arholiadau, newid hinsawdd a’r amgylchedd ac yr Iaith Gymraeg.
Mewn cydweithrediad gyda Cered mae Radio Aber wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc yn Ysgol Penglais i greu rhaglen radio. Yn y rhaglen hon mae Laura a Gwenllian yn trafod pynciau sy’n berthnasol iddyn nhw fel pobl ifanc, yn cynnwys sgyrsiau am gerddoriaeth Gymraeg a theledu Cymraeg i bobl ifanc.
Darllediad cyntaf Radio Aber yn fyw o’r noson Oleuadau Nadolig yn Aberystwyth – Sgyrsiau hefo pobl leol, y rhai oedd yn rhedeg stondinau’r farchnad, ychydig o ganu carolau wrth i ni gyfri i lawr at droi goleuadau’r goeden ymlaen, a chyfle i glywed pa mor dda mae plant Ceredigion wedi bod gan Siôn Corn ei […]
Cawsom wybod dydd Gwener fod Nation Broadcasting wedi dewis peidio adnewyddu eu trwydded ar gyfer Radio Ceredigion pan ddaw i ben yn 2019. Mae Radio Ceredigion wedi bod yn ddarlledwr poblogaidd iawn yn yr ardal ers degawdau. Ers 2010 mae wedi bod dan berchnogaeth Nation Broadcasting ac yn raddol rydym wedi gweld eu cynnwys yn […]
Mae Ofcom wedi cyhoeddi heddiw ei fod wedi dyfarnu trwydded radio cymunedol newydd yn Aberystwyth. Bydd Radio Aber yn darlledu i bobl yn Aberystwyth a’r ardaloedd cyfagos. Bydd Radio Aber yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr hefo’r amcan o frwydro yn erbyn unigrwydd ac uno cymdeithasau yng Ngheredigion. Bydd yr orsaf yn rhoi llwyfan i […]