Rhaglen Radio Ysgol Penglais gyda Laura a Gwenllian – Ebrill 2019

Mewn cydweithrediad gyda Cered mae Radio Aber wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc yn Ysgol Penglais i greu rhaglen radio. Yn y rhaglen hon mae Laura a Gwenllian yn trafod pynciau sy’n berthnasol iddyn nhw fel pobl ifanc, yn cynnwys sgyrsiau am gerddoriaeth Gymraeg a theledu Cymraeg i bobl ifanc.