Gwybodaeth Am Radio Aber

Eich gorsaf radio cymunedol newydd ar gyfer Aberystwyth a’r ardal

Wedi’i redeg GAN bobl leol a’n darlledu AR GYFER pobl leol, mae Radio Aber yn orsaf radio LLEOL!

Bydd Radio Aber yn darparu gwasanaeth ddarlledu gwbl ddwyieithog a fydd yn cynnig rhywbeth i bawb. Hefo cyfoeth o dalent lleol, pobl diddorol, digwyddiadau gwych, egni, brwdfrydedd a hanes diddorol, rydyn ni’n gobeithio hyrwyddo radio lleol o galon canolbarth Cymru.

Cyfleoedd

Cyfleoedd

Mae gorsaf radio leol newydd yn cynnig llu o gyfleoedd i gymunedau ar draws ein hardal leol.

Effaith

Effaith

Gall gorsaf radio lleol newydd fod yn ganolbwynt digwyddiadau ar gyfer ardal heb ddarpariaeth darlledu lleol.

Ein Nodau

1. Rhedeg gorsaf radio ddwyieithog ar FM ac ar-lein i gymunedau ar draws Ceredigion

Rydym am i chi fod yn leisiau yn ein cymunedau

2. Brwydro yn erbyn unigrwydd ac i wella iechyd a lles ymhlith pobl Ceredigion

Mae radio yn rhoi'r llwyfan perffaith i ddod â phobl at ei gilydd

3. Hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth i drigolion a myfyrwyr gael datblygu eu sgiliau a'u hunanhyder

Mae radio cymunedol yn rhoi mynediad i nifer o sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth

4. Gweithio gyda busnesau a sefydliadau lleol eraill i helpu hyrwyddo eu gwaith a chodi eu proffil yn y gymuned i wella ansawdd bywyd pobl Ceredigion

Rydym ni'n credu mewn rhannu sgiliau a gwybodaeth i helpu ein gilydd gyflawni ein nodau ein hunain

5. Rhoi llwyfan i gynrychioli a datblygu Ceredigion yn ogystal â busnes, cerddoriaeth a diwylliant Cymreig;

Rydym am gefnogi busnesau ac artistiaid lleol a dathlu ein diwylliant

Mae'r gymuned yn allweddol

'Da ni'n caru ein cymuned

Rydym yn sefydliad dielw sy'n cael ei arwain gan y gymuned. Mae ein gorsaf radio wedi'i hysbrydoli, yn cael ei harwain gan ac ar gyfer aelodau o'n cymuned. O ganlyniad, byddem yn cynnal ymgynghoriadau ac arolygon rheolaidd er mwyn i chi allu dweud eich dweud ar bob agwedd o'r sefydliad.

Rydym Ni'n Lleol

Wedi'i leoli'n lleol ac yn cael ei redeg yn lleol

Dydyn ni'm yn mynd i unlle! Mae bod yn lleol yn hollbwysig!

Yr hyn sy'n bwysig i ni yw bod yr ardal leol yn cael ei gwasanaethu ar lefel darlledu leol.
Rydym wedi gosod nodau penodol i'w cwrdd yn yr ardal, yr ydym yn gobeithio y bydd o fudd mawr i'r cymunedau o'n cwmpas.

Edrychwch y cyfleoedd y gall radio cymunedol eu darparu…