Ymuno

Gwnewch mwy na gwrando…

Mae Radio Aber yn cael ei arwain gan y gymuned. Mae popeth o gynnwys rhaglennu i gyllid a chyfarwyddyd dan ofal pobl y gymuned. Hynny yw, CHI!

Helpwch ni godi’r arian sydd ei angen i ddechrau darlledu trwy ymuno â’n hymgyrch Crowdfunding. Rhowch y gair ar led a chael eraill i fuddsoddi trwy drafod cyfleoedd posibl gorsaf radio lleol newydd gyda ffrindiau a theulu, a’i rannu ar gyfryngau cymdeithasol. Beth am fod yn un o’r cyflwynwyr, gohebwyr, neu gyfwelwyr trwy wirfoddoli’ch amser yn ystod yr wythnos?

Os ydych chi eisiau darpariaeth gorsaf radio lleol sy’n darlledu’r hyn yr hoffech ei glywed, gan bobl rydych chi’n ymddiried ynddynt, helpwch greu hynny heddiw.

1. Ymunwch â'n Crowdfunder

Rhowch gynnig ychydig i wneud gwahaniaeth mawr.

2. Rhannwch ar Gyfryngau Cymdeithasol

Y mwyaf o bobl yn cymryd rhan, y gorau'r gwasanaeth.

3. Rhowch eich sgiliau

Eich cymuned yw hi. Byddwch yn rhan ohoni.