Effaith Radio Cymunedol

O Fobl Yn Cymryd Rhan Pob Blwyddyn

O Wrandawyr

O gymunedau yn yr ardal darlledu

Pa effaith fydd gan gorsaf radio lleol newydd ar ein cymunedau?

Prif nodau Radio Aber yw cysylltu hefo a chymryd rhan mewn cymunedau lleol â’r hyn sy’n digwydd yn eu hardaloedd lleol. Bydd effeithiau hyn o fudd i iechyd a lles yn lleol, i fusnesau lleol a phroffiliau cymunedol.

Sgiliau Newydd

Mae gweithio ym maes radio yn cynnig amrywiaeth o sgiliau i bobl lleol

Mae uwch-sgilio yn cael effaith bositif ar gymunedau, sydd yn ei dro yn gallu gwella iechyd a brwydro yn erbyn unigrwydd. Mae gweithio ym maes radio yn cynnig set o sgiliau trosglwyddadwy, yn enwedig sgiliau cyfathrebu a siarad cyhoeddus sy’n magu mwy o hyder.

Bydd Radio Aber yn cynnig amrywiaeth o rolau gyda rhaglenni hyfforddiant, sy’n addas i fyfyrwyr coleg a phrifysgol sy’n edrych i gynyddu eu cyfleoedd gyrfa ac i bobl mewn gwaith yn ogystal â phobl sydd wedi ymddeol ac yn dymuno gwella neu ddysgu sgiliau newydd.

Yn yr oes fodern, mae’n hawdd i bobl hŷn a phobl iau ddod yn unig. Mae ein cymunedau’n llawn unigolion diddorol hefo amrywiaeth o sgiliau sy’n werth eu dathlu, a gall radio fod yn arf perffaith ar gyfer cysylltu pobl ar draws cymunedau.

Bydd Radio Aber yn cynnig amrywiaeth o raglenni, gweithgareddau a digwyddiadau allanol sy’n annog gwahanol aelodau o’r gymuned i gysylltu â’i gilydd. Gall radio cymunedol roi pwyntiau cyswllt i wella mynediad pobl at weithgareddau a digwyddiadau yn y gymuned.

Cysylltu Pobl

Mae radio cymunedol yn rhoi llais i’r gymuned a galluogi i bobl lleol chwarae rhan allweddol yn y gymdeithas

Siarad a Gwrando

Mae radio yn rhoi’r cyfle i bobl estyn allan yn ogystal a rhoi cyfle i wrando ar eraill

Mae bywyd modern yn gallu rhwystro ni rhag gwrando’n effeithiol, sydd yn ei dro yn gallu arwain at ddiffyg empathi a dealltwriaeth. Mae angen i gymunedau iach gael clywed barn ei gilydd a chaniatáu i bawb gael llais.

Mae Radio Aber yn cynnig i bobl fynegi llais eu hunain, ond mae hefyd yn cynnig cyfle i gynulleidfa wrando ar farn pobl eraill. Os oes gan ein cymunedau wir ddiddordeb mewn clywed a deall beth sydd gan eraill i’w ddweud, mae radio cymunedol yn cynnig adnodd anhygoel.

Dewch i chwarae eich rhan…