Cyfleoedd

Mae radio lleol yn cynnig cyfle newydd…

Mae radio cymunedol yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb.

Meddyliwch amdano fel ffordd newydd o gyrraedd cwsmeriaid, cyfle i leisio’ch barn ar faterion lleol, neu fel cyfle i wneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau newydd. Beth bynnag y mae’n ei olygu i chi, mae Radio Aber yna i’w ddarparu.

Yr Iaith Gymraeg

Bydd Radio Aber yn sefydliad dwyieithog, hefo rhaglenni mewn Cymraeg a Saesneg.

Mae darlledwr lleol newydd yn cynnig nifer o gyfleoedd i hyrwyddo’r iaith Gymraeg trwy gymysgu siaradwyr rhugl hefo dysgwyr newydd. Mae’r Gymraeg yn cael ei siarad bob dydd ar draws ein cymunedau, a dylai’r orsaf radio lleol adlewyrchu hynny.

Gall gwrandawyr ddisgwyl clywed darlledu dwyieithog trwy gydol y dydd ar Radio Aber, gyda siaradwyr brodorol a dysgwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio eu Cymraeg ar yr awyr.

Bydd Radio Aber yn cyrraedd miloedd o bobl leol ar draws yr ardal ar FM, a bydd y ffrwd ar-lein yn golygu fod yr orsaf ar gael i wrandawyr tu hwnt i gyrraedd yr FM.

Gyda nifer bach o ddarlledwyr lleol eraill yn yr ardal, bydd gan fusnesau fynediad unigryw i farchnad leol ddwys, a fydd o fudd i’r economi leol.

Busnes a Thwristiaeth

Bydd Radio Aber yn cyrraedd miloedd o bobl leol, a fydd o fudd i fusnesau lleol.

Gwirfoddoli ac Uwchsgilio

Mae Radio Aber yn disgwyl y bydd hyd at 100 o bobl leol yn rhan o redeg y gwasanaeth yn flynyddol.

Mae gorsaf radio lleol newydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli i aelodau o’r gymuned er mwyn iddynt ddysgu sgiliau newydd. Mae Radio Aber yn disgwyl adlewyrchu’r ddemograffeg yn yr ardal leol, sy’n golygu cyfleoedd newydd i bawb beth bynnag eu hoedran, eu lleoliad neu eu profiad.

Cyflwynwyr, cynhyrchwyr, gohebwyr a newyddiadurwyr yw rhai o’r rolau ar yr awyr sy’n agored i bobl leol, yn ogystal â’r rolau gweinyddol a chymorth sydd yn hollbwysig i redeg sefydliad dielw.

Mae diweddariadau ar rybuddion tywydd, traffig trwm, ysgolion ar gau, a straeon newyddion i gyd yn hollbwysig i radio lleol. Radio yw’r cyfrwng orau ar gyfer darlledu diweddariadau perthnasol a chyfredol ac unrhyw ddatganiadau cyhoeddus.

Mae Radio Aber yn cynnig cyfleoedd dyddiol i gymunedau lleol a sefydliadau gadw mewn cysylltiad â newyddion a chyhoeddiadau lleol yn eu hardal.

Datganiadau Cyhoeddus

Mae radio lleol yn cynnig gwybodaeth byw a diweddar ar newyddion a digwyddiadau yn eich ardal.

Darganfyddwch effaith radio cymunedol…