Ymateb i’r newyddion na fydd Radio Ceredigion yn adnewyddu eu trwydded FM.

Cawsom wybod dydd Gwener fod Nation Broadcasting wedi dewis peidio adnewyddu eu trwydded ar gyfer Radio Ceredigion pan ddaw i ben yn 2019. Mae Radio Ceredigion wedi bod yn ddarlledwr poblogaidd iawn yn yr ardal ers degawdau. Ers 2010 mae wedi bod dan berchnogaeth Nation Broadcasting ac yn raddol rydym wedi gweld eu cynnwys yn cael ei ganoli y tu allan i’r sir. Serch hynny, rydym wedi synnu i glywed eu penderfyniad am ddyfodol Radio Ceredigion.

Nid ydym wedi bod mewn cyswllt hefo Radio Ceredigion na Nation Broadcasting gan ein bod yn ystyried ein hamcanion fel gorsaf radio gymunedol yn wahanol iawn i rai eu sefydliad masnachol. Mae radio cymunedol yn elfen wahanol o’r darlledu sydd dan reolaeth Ofcom, ac mae’n bodoli i fod â ffocws lleol a chael ei redeg yn benodol gan sefydliadau dielw fel Radio Aber. Yr hyn sy’n bwysig i ni ydi fod y gymuned yn cael gwasanaeth ddarlledu leol. Rydym wedi gosod nodau yr ydym yn bwriadu eu cwrdd, ac yn gobeithio y bydd o fudd i’r gymuned o’n cwmpas. Cawn ein gyrru fel menter gymdeithasol i frwydro yn erbyn unigrwydd, meithrin cysylltiad â’r gymuned, a hyrwyddo cynnwys lleol.

Beth bynnag bydd canlyniad diwedd trwydded Radio Ceredigion y flwyddyn nesaf, gall pawb sydd yn mwynhau radio lleol fod yn sicr y bydd Radio Aber yn dal i barhau i weithio tuag at greu gwasanaeth dwyieithog newydd gwych ar gyfer cymunedau’r ardal. Rydym yn bwriadu dechrau darlledu yn gynnar yn 2019.

Lawrlwytho’r Datganiad i’r Wasg