Gwybodaeth Am Radio Aber
Eich gorsaf radio cymunedol newydd ar gyfer Aberystwyth a’r ardal
Wedi’i redeg GAN bobl leol a’n darlledu AR GYFER pobl leol, mae Radio Aber yn orsaf radio LLEOL!
Bydd Radio Aber yn darparu gwasanaeth ddarlledu gwbl ddwyieithog a fydd yn cynnig rhywbeth i bawb. Hefo cyfoeth o dalent lleol, pobl diddorol, digwyddiadau gwych, egni, brwdfrydedd a hanes diddorol, rydyn ni’n gobeithio hyrwyddo radio lleol o galon canolbarth Cymru.
Cyfleoedd
Cyfleoedd
Mae gorsaf radio leol newydd yn cynnig llu o gyfleoedd i gymunedau ar draws ein hardal leol.
Effaith
Effaith
Gall gorsaf radio lleol newydd fod yn ganolbwynt digwyddiadau ar gyfer ardal heb ddarpariaeth darlledu lleol.
Ein Nodau
1. Rhedeg gorsaf radio ddwyieithog ar FM ac ar-lein i gymunedau ar draws Ceredigion
2. Brwydro yn erbyn unigrwydd ac i wella iechyd a lles ymhlith pobl Ceredigion
3. Hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth i drigolion a myfyrwyr gael datblygu eu sgiliau a'u hunanhyder
4. Gweithio gyda busnesau a sefydliadau lleol eraill i helpu hyrwyddo eu gwaith a chodi eu proffil yn y gymuned i wella ansawdd bywyd pobl Ceredigion
5. Rhoi llwyfan i gynrychioli a datblygu Ceredigion yn ogystal â busnes, cerddoriaeth a diwylliant Cymreig;
Mae'r gymuned yn allweddol
'Da ni'n caru ein cymuned
Wedi'i leoli'n lleol ac yn cael ei redeg yn lleol
Yr hyn sy'n bwysig i ni yw bod yr ardal leol yn cael ei gwasanaethu ar lefel darlledu leol.
Rydym wedi gosod nodau penodol i'w cwrdd yn yr ardal, yr ydym yn gobeithio y bydd o fudd mawr i'r cymunedau o'n cwmpas.