Mae Ofcom wedi cyhoeddi heddiw ei fod wedi dyfarnu trwydded radio cymunedol newydd yn Aberystwyth.
Bydd Radio Aber yn darlledu i bobl yn Aberystwyth a’r ardaloedd cyfagos.
Bydd Radio Aber yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr hefo’r amcan o frwydro yn erbyn unigrwydd ac uno cymdeithasau yng Ngheredigion. Bydd yr orsaf yn rhoi llwyfan i bobl leol allu rhannu eu barn a’u pryderon, gofyn am gymorth, ac i ddarparu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r gymuned. Byddem yn cefnogi bandiau, cerddorion a busnesau lleol. Mae teimlad cryf o gymdeithas yn deimlad cryf o undod.
Bydd posib gwrando ar Radio Aber ar FM yng Ngheredigion, ac ar lein ar gyfer ardaloedd tu allan i gyrraedd yr FM. Bydd yr holl wasanaethau radio cymunedol yn ddielw, gan ganolbwyntio ar fanteision cymdeithasol yn ein cymuned ni.
Mae dros 250 o orsafoedd radio cymunedol ar yr awyr heddiw. Mae Radio Aber yn gobeithio dechrau darlledu cyn diwedd y flwyddyn.