Cefnogwch ni yn ein Crowdfunder

Rydym ni’n codi arian i ni allu prynu offer angenrheidiol i ni allu dechrau ein gweithgareddau darlledu cymunedol.

Rŵan, rydyn ni’n angen eich cymorth chi i godi arian i’n galluogi ni i ddechrau darlledu a rhoi rhywbeth nol i’r gymuned.

Rydyn ni wedi cymryd nifer o gamau mawr yn barod, fel ymgynghori gyda’r gymuned, cael ein trwydded darlledu a symud i mewn i’n hadeilad. Er hynny mae ‘na dal mwy o gostau cyn i ni allu dechrau’r gwasanaeth hollbwysig hon.
Rydyn ni angen prynu offer darlledu a throsglwyddo ac rydyn ni angen eich cymorth chi. Bydd pob cyfraniad yn mynd yn bell tuag at lansio’r orsaf.

Bydd Radio Aber yn darparu gwasanaeth ddarlledu gwbl ddwyieithog a fydd yn cynnig rhywbeth i bawb. Hefo cyfoeth o dalent leol, pobl ddiddorol, digwyddiadau gwych, egni, brwdfrydedd a hanes diddorol, rydyn ni’n gobeithio hyrwyddo radio lleol o galon canolbarth Cymru.

Wedi’i redeg GAN bobl leol a’n darlledu AR GYFER pobl leol, mae Radio Aber yn orsaf radio LLEOL!

Ein Blog

Y datblygiadau diweddaraf am y prosiect

Sut allwch chi helpu?

Mae llawer i'w wneud, dyma rai o'r pethau y gallwch chi eu gwneud i gymryd rhan